Rhestr Llengoedd Rhufeinig

Y Lleng (Lladin: Legio), oedd yr uned filwrol nodweddiadol o'r fyddin Rufeinig. Roedd maint lleng yn amrywio, ond yn oes aur Rhufain roedd tua 5,000 - 6,000 o wyr. Gweler Lleng Rufeinig.

Roedd gan pob lleng ei rhif, ond mae'n bwysig sylwi fod modd i fwy nag un lleng fod a'r un rhif. Roeddynt yn cael eu gwahaniaethu gan enwau, a allai gyferio at fuddugoliaeth a enillodd y lleng, y wlad lle ffurfiwyd hi neu'r person a'i ffurfiodd. Mae rhai llengoedd yn dwyn yr enw Gemina (Efaill), sy'n dynodi eu bod wedi eu ffurfio trwy gyfuno dwy leng flaenorol. Ychwanegir y blynyddoedd y bu'r lleng mewn bodolaeth a nodir yr ymerawdwr neu'r person arall a'i ffurfiodd.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search